Ymchwiliad i ddyn syrthiodd yn farw yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafodd rhan o Heol Pentreguinea ei chau gan yr heddlu
Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth ddi-esboniad dyn syrthiodd yn farw ar stryd yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi eu galw i Heol Pentreguinea yn ardal St Thomas yn y ddinas am 05:25.
Dywedodd llefarydd eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth y dyn 43 oed, ond nad ydyn nhw'n ei thrin fel marwolaeth amheus.
Bu'r ffordd ar gau i'r cyhoedd am gyfnod, ond fe gafodd ei ailagor am tua 11:00.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.