Amser ymateb ambiwlansys yn gwella unwaith eto
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y gwasanaeth ymateb i 13,120 o alwadau difrifol ym mis Ebrill
Mae amser ymateb ambiwlansys wedi gwella am y pedwerydd mis yn olynol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Fe wnaeth criwiau gyrraedd 58.7% o alwadau categori A o fewn y targed o wyth munud ym mis Ebrill, i fyny o 52.9% ym mis Mawrth. Targed llywodraeth Cymru yw 65%.
Fe welodd y galwadau mwyaf brys - galwadau Red 1 - 71% o ambiwlansys yn cyrraedd o fewn wyth munud.
Dywedodd brif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Tracy Myhill, bod y ffigyrau yn "galonogol iawn".
"Ein nod yw parhau i wella a chanolbwyntio ar sicrhau gofal ardderchog i'r bobl sydd angen ein help," meddai.
O'r 35,162 o alwadau ym mis Ebrill, fe gafodd 13,120 eu dyfarnu yn ddifrifol.
Ond dywedodd Ms Myhill bod y gwasanaeth angen help y cyhoedd trwy ddefnyddio'r gwasanaeth dim ond pan fo'n angenrheidiol.
"Rydyn ni'n parhau i gael ein galw yn rhy aml i alwadau sydd ddim angen ymateb gan y gwasanaeth ambiwlans," meddai.