Tynnu enw cyn-grwner oddi ar restr cyfreithwyr
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd William John Owen ei garcharu am bum mlynedd ym mis Tachwedd y llynedd
Mae Tribiwnlys Disgyblaethol Cyfreithwyr wedi cadarnhau bod cyn-grwner Sir Gâr wedi cael ei dynnu oddi ar restr cyfreithwyr.
Fe gafodd William John Owen o Landeilo ei garcharu am bum mlynedd ym mis Tachwedd y llynedd am ddwyn £1m.
Fe blediodd yn euog i 17 cyhuddiad o ladrata a chadw cyfrifon ffug wedi iddo ddwyn £1m o ystâd John Williams am fod ei gwmni mewn trafferthion.
Roedd Owen wedi bod yn grwner am 25 mlynedd cyn iddo ymddiswyddo yn 2011.
Fe fydd penderfyniad y tribiwnlys yn cael ei gyhoeddi ar wefan Tribiwnlys Disgyblaethol Cyfreithwyr mewn tua saith wythnos.