Beiciwr modur wedi marw ar ôl damwain yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl damwain ffordd yn Sir Benfro yn oriau cynnar dydd Iau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 01:00 ar ôl i feic modur adael yr A4139 ym Mhenalun, ger Dinbych-y-pysgod.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain - dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad.

"Bydd y ffordd yn parhau ynghau tra bod swyddogion yn archwilio safle'r ddamwain. Mae ein cydymdeimlad gyda theulu'r dyn a'i ffrindiau."

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am i unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101.