Meddygon o Gymru i helpu dioddefwyr daeargryn Nepal
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd miloedd o bobl eu lladd pan ddigwyddodd y daeargryn ar 25 Ebrill
Mae staff meddygol o dde Cymru i hedfan i Nepal i helpu trin dioddefwyr y ddau ddaeargryn sydd wedi taro'r wlad.
Fe fydd hyd at wyth o glinigwyr o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ac Ysbyty Treforys, Abertawe, yn treulio wythnos mewn ysbytai yn Kathmandu.
Bydd y tîm, gan gynnwys yr wrolegydd Dr Amol Pandit, yn helpu mewn theatrau llawdriniaeth ac yn trin pobl mewn cymunedau gwledig.
Fe gafodd y wlad ei tharo gan ddau ddaeargryn mewn cyfnod o bythefnos ac mae tua 9,000 o bobl wedi eu lladd.
Bydd pawb sy'n rhan o'r daith - fydd yn gadael ym mis Gorffennaf - yn rhoi o'u hamser eu hunain i ymuno â'r genhadaeth, a byddant yn talu eu costau eu hunain.
Dywedodd Dr Pandit, sy'n gweithio yn bennaf yn ysbytai Treforys a Chastell-nedd Port Talbot, y byddai'r tîm yn defnyddio eu harbenigedd meddygol i helpu meddygon lleol i ddarparu'r driniaeth sydd ei angen.
"Dydw i ddim yn disgwyl y bydd llawer o waith wroleg, felly byddaf yn gwneud beth bynnag fydd yn fy ngallu i helpu, hyd yn oed os mai dim ond cynorthwyo yn y theatrau llawdriniaeth fydd hynny," meddai.

Mae Amol Pandit yn dweud bod y criw hefyd yn bwriadu rhoi cyfraniad tuag at gronfa argyfwng Nepal
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2015

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2015
