Arestio pump ym Mangor ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau
- Cyhoeddwyd

Cafodd y tai eu chwilio brynhawn Iau
Mae'r heddlu'n dweud bod pump wedi eu harestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau a'u cyflenwi.
Cafodd tai eu chwilio ar stad Maesgeirchen ym Mangor brynhawn Iau oherwydd Ymgyrch Rubicon.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gyffuriau ac arian parod.
"Hoffen ni ddiolch i'r gymuned am eu help a'u hamynedd," meddai'r Sarjant Ian Roberts.
"Ein blaenoriaeth ni yw taclo cyflenwi cyffuriau."
Dylai unrhywun â gwybodaeth am droseddau o'r fath ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.