Arestio dyn ar ôl ymosodiad rhywiol mewn parc
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cau ardal o Barc Biwt yn dilyn y digwyddiad
Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn honiad o ymosodiad rhywiol ar ddynes mewn parc yng Nghaerdydd.
Mae Heddlu'r De wedi cau ardal o Barc Biwt.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad nos Wener.
Yn ôl llefarydd: "Mae dyn, ydyn ni'n credu sy'n adnabod y ddynes, wedi cael ei arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa."