BGT: Côr Glanaethwy yn drydydd yn y rownd derfynol
- Cyhoeddwyd

Roedd perfformiadau'r côr wedi cael ymateb da drwy gydol y gystadleuaeth
Trydydd oedd Côr Glanaethwy yn rownd derfynol Britain's Got Talent nos Sul, er iddyn nhw fod yn ffefrynnau'r bwcis cyn y noson.
Perfformiad gan Jules O'Dwyer a Matisse y ci oedd yn fuddugol ar y noson, gyda Jamie Raven yn ail.
Y côr 167 aelod o Fangor oedd y perfformwyr cyntaf i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl ennill pleidlais y cyhoedd nos Lun.
Fe gafodd y côr ganmoliaeth mawr gan y beirniaid am eu perfformiad o Haleliwia.
Dywedodd cyfarwyddwr y côr, Cefin Roberts, eu bod wedi penderfynu cystadlu fel rhan o ddathliadau i nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r côr.
'Wrth fy modd hefo'r ci!'
Dywedodd nad oedd wedi "breuddwydio y byddan ni'n cyrraedd y ffeinal" ond eu bod nhw'n "falch iawn ein bod ni wedi gwneud mor dda".
Dywedodd ei fod yn hoff iawn o raglenni variety pan yn iau, ac yn falch o fod yn rhan o rywbeth tebyg eto.
"Dwi yn meddwl bod y rhaglen yma yn dod a variety yn ôl ac felly dydych chi byth yn gwybod [pwy fydd yn ennill]. O'n i wrth fy modd hefo'r ci mae'n rhaid i fi gyfadde'!
"Dwi wrth fy modd pan rydych chi'n gweld rhywun sy'n dod a perfformiadau sy'n cynnig amrywiaeth yn ôl yn lle bod ni'n gwatchiad gymaint o raglenni ynglŷn â sut da chi'n altro eich tŷ! Da ni rŵan yn dod ac amrywiaeth yn ôl i deledu a dwi'n hynod o falch bod ni di bod yn rhan o hynny."
Dywedodd ei fod yn "anghrediniol" bod Simon Cowell wedi ei alw yn seren, ac ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod ni fel cor wedi cynnig rhywbeth fymryn yn wahanol i be mae corau fel arfer yn gallu ei gynnig."