Cau tair ysgol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Dafydd Evans sy'n gohebu o Sir Ddinbych, ac Elen Wyn yn manylu ar y sefyllfa yn Y Bala.
Mae Cynghorwyr Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynllun dadleuol i gau tair ysgol gynradd yn y sir, ac mae ail ymgynghoriad ar y gweill am ysgol arall.
Bydd Ysgol Pentrecelyn, Ysgol Rhewl ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd i gyd yn cau.
Fe wnaeth cabinet yr awdurdod bwysleisio y dylai'r Eglwys yng Nghymru gyflwyno unrhyw gynnig i fferedaleiddio Ysgol Llanbedr gydag ysgol arall os ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny.
Mae ail ymgynghoriad ar droed ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr.
Fe fydd y cynllun yn golygu uno Ysgol Pentrecelyn sydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg, gydag ysgol ddwyieithog Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn Rhuthun.
Bydd Ysgol Rhewl yn cau o achos gostyngiad yn nifer y disgyblion.

Cafodd camau i gau Ysgol Llanbedr eu rhwystro gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis y llynedd
Gwrthwynebu
Mae gwrthwynebiad wedi ei leisio i'r cynllun yn lleol, gyda rhieni Pentrecelyn yn pryderu am effaith y newidiadau posib ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.
Dywedodd adroddiad gan Gyngor Sir Ddinbych fod gwahanol gynlluniau wedi cael eu cysidro, ac fe fyddai safle newydd i ddisgyblion Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn cael ei adeiladu erbyn mis Medi 2017.
Cafodd camau i gau Ysgol Llanbedr eu rhwystro gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis y llynedd, er mwyn i ymgynghoriad pellach gael ei gynnal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2015
