Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2014

  • Cyhoeddwyd

Ar nos Iau 4 Mehefin bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn Galeri, Caernarfon.

Am 19:00 bydd hi'n bosib i chi ddilyn llif byw arbennig Cymru Fyw o'r digwyddiad ac mi gewch wybod pa gyfrolau sydd ar y rhestr fer, dolen allanol fydd yn cael eu gwobrwyo eleni.

Yn y cyfamser, fel tamaid i aros pryd, dyma i chi flas o seremoni'r llynedd mewn lluniau. Y ffotograffydd ydy Iolo Penri:

Cyfrol o farddoniaeth gan Owen Sheers enillodd brif wobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn a'r wobr yn y categori barddoniaeth am ei gyfrol Pink Mist
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrol o farddoniaeth gan Owen Sheers enillodd brif wobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn a'r wobr yn y categori barddoniaeth am ei gyfrol Pink Mist

Enillodd Ioan Kidd dair gwobr Gymraeg - Barn y Bobl, y categori ffuglen a phrif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2014 am ei nofel Dewis
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Ioan Kidd dair gwobr Gymraeg - Barn y Bobl, y categori ffuglen a phrif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2014 am ei nofel Dewis

Andrew Webb, Nadia Kamil a Jasper Rees
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Webb, Nadia Kamil a Jasper Rees oedd beirniaid y llyfrau Saesneg

Christine James
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Archdderwydd Cymru, Christine James, yn y categori barddoniaeth Gymraeg am Rhwng y Linellau

Tyler Keevil
Disgrifiad o’r llun,

Tyler Keevil, o Ganada yn wreiddiol, enillodd wobr Barn y Bobl yn Saesneg am The Ride

Francesca Rhydderch
Disgrifiad o’r llun,

Francesca Rhydderch oedd enillydd y categori ffuglen Saesneg am ei nofel The Rice Paper Diaries

Bar
Disgrifiad o’r llun,

Casglodd y gynulleidfa ym mar canolfan Galeri, Caerarfon, cyn y seremoni

Bethan Mair yn siarad i gamera
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y golygydd a'r awdur Bethan Mair yn trafod llyfrau'r wobr ar raglen Pethe

Derec Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Derec Llwyd Morgan ar restr fer y llyfrau ffeithiol greadigol Cymraeg am ei gyfrol am fywyd a gwaith Thomas Parry

Owen Sheers a Ciaran Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Owen Sheers yn cadw cwmni i Ciaran Jenkins, gohebydd newyddion Channel 4 News a mab y bardd Mike Jenkins oedd hefyd ar y rhestr fer

Meic Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Meic Stephens: enillydd y categori ffeithiol greadigol Saesneg am ei gofiant o Rhys Davies

Jemma KingFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfrol o farddoniaeth Jemma L King, The Shape of a Forest, ei henwebu

Gareth Miles
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Miles, enillydd y wobr yn 2008, oedd un o'r beirniaid Cymraeg

Lowri CookeFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o'r beirniaid, Lowri Cooke, wnaeth gyhoeddi enw enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn

Eirian James, Palas PrintFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfle i brynu llyfrau'r gystadleuaeth yn Galeri