T20 Blast: Morgannwg yn trechu Middlesex
- Cyhoeddwyd

T20 Blast
Morgannwg 169 am 5 (20 pelawd)
Middlesex 165 am 5 (20 pelawd)
Mae Morgannwg wedi trechu Middlesex mewn gem 20 pelawd llawn cyffro yng Nghaerdydd.
Ar ôl dewis batio yn gyntaf sgoriodd Morgannwg 169 am 5 - y capten Jaques Rudolph yn arwain gyda chyfraniad o 60.
Yna fe ddaeth batiad ymosodol gan Christopher Cooke wrth iddo gyfrannu 39 heb fod allan.
Roedd ymateb Middlesex yn fwy ymosodol fyth - Dawid Malan yn cosbi bowlio llac gan Wayne Parnell a James Salter.
Sgoriodd Malan 70 - ond ar ôl iddo golli ei wiced gyda'r sgôr ar 138 - roedd gan Forgannwg gyfle i ennill y gêm.
Fe fanteisiodd bowlwyr Morgannwg ar y cyfle - ac fe enillwyd y gêm yn y belawd olaf.
Roedd Middlesex 4 yn brin o'r targed, diolch yn bennaf i fowlio cywir Graham Wagg yn yr eiliadau olaf.