Oedi wrth godi bandstand Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
DarlunFfynhonnell y llun, ARALL
Disgrifiad o’r llun,

Darlun artist o'r adeilad newydd

Bydd y gwaith o adeiladu bandstand gwerth £1.2m ar y promenâd yn Aberystwyth yn cael ei gwblhau ddeufis yn hwyrach na'r disgwyl.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol, oedd ar y safle ers 1935, ei ddymchwel ym mis Ionawr a'r gobaith oedd y byddai'r bandstand newydd ar agor erbyn mis Awst.

Ond mae'r adeiladwyr wedi egluro fod problemau gyda thywydd gwael, llanw uchel a cheblau tanddaearol yn gyfrifol am yr oedi.

Mae disgwyl i'r adeilad fod yn barod erbyn diwedd mis Hydref.

Aber
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddymchwel yn gynharach eleni