Tân Pen-y-bont wedi ei gynnau'n ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwasanaeth tân yn parhau i chwistrellu dŵr ar y safle ddydd Sadwrn
Mae ymchwiliad i achos tân ar safle canolfan ailgylchu ym Mhen-y-bont wedi dod i'r canlyniad bod y tân wedi ei gynnau'n ddamweiniol.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei alw i Stad Ddiwydiannol Brynmenyn am 09:00 fore Gwener, a bu'r tân yn llosgi am dros 24 awr.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân ddychwelyd i'r safle unwaith eto am 07:30 fore Llun oherwydd bod rhan yn mudlosgi.
Am gyfnod, tra roedd y tân yn llosgi ar ei waethaf, bu 65 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau. Bu'r gwasanaeth tân yn parhau i chwistrellu dŵr ar y silindrau nwy ar y safle trwy'r nos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2015
