Statws arbennig i gapel Cymraeg Dulyn
Mae rhai o Gymry Dulyn wedi bod yn dathlu ar ôl i hen gapel yn y ddinas gael statws arbennig i'w warchod.
Roedd Capel Bethel yn lleoliad pwysig am ganrif gyfan cyn i'r oedfaon ddod i ben ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.
Caffi rhyngrwyd a neuadd snwcer sydd yno bellach. Gohebydd BBC Cymru, Dafydd Gwynn fuodd yn holi Cymry Dulyn.