Tân mawr mewn adeilad ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân yn mynd i'r afael â thân mawr mewn adeilad adfeiliedig ym Mangor.
Fe gafodd criwiau eu galw i'r hen adeilad masnachol ar Ffordd Llandygai am 19:50.
Mae un peiriant uchel yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r criwiau tân sy'n bresennol.
Mae'r digwyddiad yn parhau.