Priodas orfodol: Carcharu dyn o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Yr achos ym Merthyr oedd y cyntaf o'i fath o dan deddfwriaeth newydd ddaeth i rym y llynedd
Dyn 34 oed o Gaerdydd yw'r person cyntaf yn y DU i gael ei erlyn dan ddeddfwriaeth newydd ddaeth i rym y llynedd yn ymwneud ac atal priodas orfodol.
Cafodd y dyn, ni ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, ei garcharu am 16 o flynyddoedd ar ôl cyfaddef iddo orfodi dynes 25 oed ei brodi dan bwysau ym Medi 2014.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful fe wnaeth y dyn hefyd bledio'n euog i gyhuddiadau o dreisio, voyeriaeth ac o fod yn briod gyda mwy nag un wraig ar yr un pryd.
Clywodd y llys ei fod wedi bygwth lladd tad y ddynes oni bai ei bod yn ei briodi.
Roedd y dyn ag obsesiwn am y ddynes ac roedd wedi bygwth cyhoeddi fideo ohoni yn cael cawod - fideo yr oedd wedi ei ffilmio yn y dirgel.