Pryderon am ddyfodol toiledau cyhoeddus
Fel rhan o Fesur Iechyd y Cyhoedd, bydd gorfodaeth ar gynghorau lleol i sicrhau eu bod nhw'n darparu digon o dai bach cyhoeddus yn y dyfodol.
Mae ymchwil gan raglen Newyddion 9 yn dangos fod y rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi cau nifer o gyfleusterau cyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf mewn ymgais i arbed arian.
Gohebydd BBC Cymru Teleri Glyn Jones sy'n edrych ar y sefyllfa yng Nghenarth a thu hwnt.