Mae tair blynedd yn amser hir!
- Cyhoeddwyd

Fydd Gareth Bale ac Ashley Williams yn arwain tîm Cymru i fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg?
Mae hi'n cael ei gweld fel un o gemau pwysicaf tîm pêl-droed Cymru ers cenhedlaeth. Fydd Cymru yn llwyddo i guro Gwlad Beg i gyrraedd brig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Erwop 2016? Owain Llŷr sy'n edrych ymlaen ar ran Cymru Fyw:
Mae tair blynedd yn amser hir mewn pêl-droed. Mae yna lot fawr o bethau'n gallu digwydd mewn cyfnod o'r fath. Mae tîm pêl-droed Cymru yn enghraifft wych o hynny.
Ychydig llai na thair blynedd yn ôl roedd Chris Coleman yn paratoi ar gyfer ei gêm gystadleuol gyntaf wrth y llyw fel rheolwr Cymru. Y gwrthwynebwyr, yn digwydd bod, oedd Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe gafodd Cymru y dechrau gwaethaf posibl i'r gêm pan welodd James Collins y cerdyn coch yn yr hanner cyntaf am dacl hwyr. Mi fanteisiodd Gwlad Belg ar hynny gan fynd ymlaen i ennill o ddwy gôl i ddim.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe deithion nhw i Serbia gan golli yn drwm o chwe gôl i un. Ac o fewn dim roedd y freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd 2014 ar ben.

Vincent Kompany a Gwlad Belg oedd y meistri corn y tro diwethaf i'r ddwy wlad chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2012
Bron i dair blynedd yn ddiweddarach a mae Cymru unwaith eto yn paratoi i wynebu Gwlad Belg yng Nghaerdydd. Ond y tro yma mae yna deimlad cwbl wahanol am yr holl achlysur.
Wrth siarad yng nghynhadledd hyfforddwyr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yng Nghasnewydd ychydig wythnosau'n ôl fe ddywedodd Thierry Henry fod y tîm cenedlaethol wedi rhoi "gobaith i genedl gyfan". A chredwch fi - pan mae Henry yn siarad rydych chi'n cymryd sylw o beth mae'n ei ddweud.
Roedd Coleman mewn sefyllfa mor anodd yn 2012. Cymerodd yr awenau gan y diweddar Gary Speed (oedd yn gyfaill agos iddo) a doedd o ddim eisiau newid pethau'n ormodol o fewn y garfan.
Ond yn dilyn y golled yn Serbia doedd dim dewis ganddo ond rhoi ei stamp ei hun ar bethau. A'r newid mwyaf oedd cymryd y gapteiniaeth oddi ar Aaron Ramsey gan benodi Ashley Williams fel ei gapten newydd.
Doedd symud ymlaen o gyfnod Speed byth yn mynd i fod yn hawdd i'r chwaraewyr nac i'r tîm rheoli. Ond gam wrth gam yn araf deg bach fe lwyddon nhw i wneud hynny.

Mae'r gobeithion yn uchel ar ôl buddugoliaeth gampus yn Israel
A weithiau dwi'n teimlo nad yw Coleman yn cael y clod mae o'n ei haeddu am wneud hynny mor llwyddiannus. Mi oedd olynu Speed yn swydd amhosibl mewn ffordd.
Ond fe ddangosodd Coleman lot fawr o ddewrder yn derbyn y swydd a bellach mae'r holl waith caled yn talu ar ei ganfed.
Dim ond unwaith mae Cymru wedi colli yn eu deg gêm ddiwethaf, a hynny o ddwy gôl i ddim oddi cartref yn Yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar bron flwyddyn union yn ôl.
Maen nhw'n ddiguro yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 ac os lwyddan nhw i drechu Gwlad Belg nos Wener yna mi fydd ganddyn nhw un droed yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc.
Mae Thierry Henry yn gwbl gywir - dwi'n meddwl fod pawb yng Nghymru bellach yn meddwl fod gan y tîm a'r garfan yma obaith gwirioneddol o gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958.
Pan wynebodd Cymru Wlad Belg yn 2012 nhw oedd y detholion isaf yn y grŵp rhagbrofol. Os lwyddith Bale a'i griw i'w trechu nhw nos Wener yma yna mi fydd hynny'n golygu y bydd y crysau cochion yn un o'r prif ddetholion ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol nesaf.
Mae'n rhyfedd beth sy'n gallu digwydd yn y byd pêl-droed mewn tair blynedd...

Fydd 'na wên ar wyneb Chris Coleman nos Wener?