Fellaini i fethu gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd

Fe sgoriodd Fellaini ddwywaith yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis nos Sul
Ni fydd chwaraewr canol-cae Gwlad Belg Marouane Fellaini yn ymddangos yn y gêm holl bwysig yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd nos Wener.
Roedd adroddiadau ddydd Mawrth nad oedd y chwaraewr Manchester United wedi ymarfer gyda gweddill y tîm oherwydd anaf i'w goes, ac fe wnaeth hyfforddwr Gwlad Belg Marc Wilmots gadarnhau ar Twitter ddydd Mercher y bydd yn methu'r gêm.
Fe sgoriodd Fellaini, 27 oed, ddwywaith yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis nos Sul.
Ni fydd capten arferol Gwlad Belg Vincent Kompany yn ymddangos nos Wener chwaith oherwydd gwaharddiad.
Mae pryder hefyd am ffitrwydd y chwaraewr oedd disgwyl i gymryd lle Kompany, Jason Denayer, oherwydd iddo adael eu sesiwn hyfforddi yn gynnar.