Newyddion da i glaf canser
Mae dyn o Gymru sydd wedi gorfod symud i Loegr ar gyfer triniaeth canser wedi clywed bod ei gyflwr wedi gwella.
Mae tiwmor Irfon Williams o Fangor wedi lleihau'n arw, ac fe gafodd ei ffilmio'n derbyn y newyddion da gan raglen ITV Cymru, y Byd ar Bedwar.
Fe gafodd ei drin â chyffur oedd ar gael yn Lloegr fel rhan o'r Gronfa Cyffuriau Canser yno. Adroddiad Ellis Roberts.