America: Cymro yn y llys ar gyhuddiad o dreisio
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Hall yn y ddalfa yn ninas Eugene ar ôl cael ei arestio ym mis Mai
Mae dyn o ogledd Cymru wedi ymddangos mewn llys yn yr Unol Daleithiau wedi ei gyhuddo o gipio a threisio plentyn 10 oed.
Mae Gareth Vincent Hall, sy'n 22 ac o Dalysarn yng Ngwynedd, yn y ddalfa yn nhalaith Oregon ar ôl cael ei arestio fis diwethaf.
Mae'n wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosodiad rhywiol difrifol a herwgipio.
Fe gafodd Mr Hall, oedd yn gweithio yng Nghanolfan Hamdden Arfon yng Nghaernarfon yn dysgu plant i nofio, ei wahardd o'i waith ym mis Hydref wedi ymchwiliad gwahanol gan Heddlu Gogledd Cymru.
Fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod dyn 22 oed o Dalysarn wedi ei arestio ym mis Hydref 2014 "ar amheuaeth o droseddau ar-lein ac yn parhau ar fechnïaeth".
Dywedodd papur newydd lleol yn Oregon fod cyfieithydd Cymraeg yn y gwrandawiad yn ninas Eugene.
Bydd achos yn dechrau'n ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2015
