Danny Wilson yw hyfforddwr newydd Gleision Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Danny Wilson wedi cael ei benodi'n hyfforddwr newydd Gleision Caerdydd ar gytundeb tair blynedd o hyd.
Mae'r Gleision wedi dod i ddealltwriaeth gyda Bryste er mwyn rhyddhau Wilson o'i gytundeb gyda nhw.
Mi fydd Wilson, sydd hefyd wedi bod yn hyfforddwr gyda'r Scarlets, y Dreigiau a Chymru dan20, rŵan yn mynd ati i ddewis pwy fydd yn rhan o'i dîm hyfforddi.
"Dw i'n falch iawn ac wedi cyffroi wrth gael fy mhenodi'n brif hyfforddwr Gleision Caerdydd," dywedodd Wilson mewn datganiad ar wefan y Gleision.
Roedd y Gleision wedi bod yn chwilio am hyfforddwr newydd ers i Mark Hammett adael am "resymau personol" ym mis Chwefror wedi chwe mis wrth y llyw.
Dale McIntosh a Paul John gymerodd yr awenau yn dilyn ymadawiad Hammett, ond nid yw'r Gleision wedi gwneud unrhyw sylw ar ddyfodol y ddau gyda'r rhanbarth.