Edrych ymlaen at Cymru v Gwlad Belg
Wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i wynebu Gwlad Belg nos Wener, mae pawb yn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm, ac mae'r cyffro'n cynyddu ymysg y cefnogwyr.
Os bydd Cymru yn llwyddo i guro Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe fydd tîm Chris Coleman yn ffefrynnau i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.
Iwan Griffiths fu'n edrych ar y paratoadau ar ran Newyddion 9.