Morgannwg yn trechu Sir Gaerloyw
- Cyhoeddwyd

Roedd Jacques Rudolph wrth ei fodd wedi i Forgannwg drechu Sir Gaerloyw yn y T20 Blast nos Wener.
Mae Morgannwg nawr wedi ennill tair gêm o bump yng Ngrŵp y De, gan obeithio ychwanegu buddugoliaeth arall ar y rhestr ddydd Sadwrn yn erbyn Gwlad yr Haf.
Meddai Rudolph: "'Dy ni wedi troi cornel nawr ac mae 'na 'chydig o fomentwm."
Daeth 101 rhediad Rudolph o 71 pêl, ac fe gyfranodd cyfanswm y capten o Dde Affrica i sgôr o 191-3 i'r ymwelwyr.