Rhybuddion traffig oherwydd ras Felothon Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae rhai arwyddion ffordd yn hysbysu gyrwyr o'r Felothon wedi cael eu difrodi
Mae modurwyr wedi cael eu rhybuddio y gallent wynebu aflonyddwch yn ne Cymru wrth i ffyrdd gael eu cau ar gyfer ras seiclo fawr.
Bydd hyd at 15,000 o feicwyr yn cymryd rhan yn y ras Felothon Cymru ddydd Sul, fe fydd y ras yn arwain y seiclwyr drwy Gaerdydd, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili.
Mae rhai busnesau wedi beirniadu'r penderfyniad i gau'r ffyrdd, gan honni y gallent golli miloedd o bunnoedd mewn masnach.
Dywedodd trefnwyr y ras y byddai'r ffyrdd sy'n cael eu cau, yn cael eu hailagor yn syth wedi'r seiclwyr basio, er mwyn lleihau'r effaith ar fusnesau a phobl leol.
'Yn dda i fusnes'
Bydd beicwyr amatur yn dewis seiclo ar un o ddau lwybr posib, unai'r un 140km (87 milltir) neu'r un 50km (31 milltir), tra bydd y seiclwyr proffesiynol yn mynd i'r afael â llwybr 194km (120 milltir) fydd yn eu harwain drwy Gaerffili, Mynydd y Tymbl a'r Fenni.
Ddydd Iau, fe gyfaddefodd trefnwyr y Felothon fod dryswch wedi bod ynghylch pwy gynhaliodd yr ymgynghoriad ar lwybrau'r ras, wedi i'r AS dros Sir Fynwy, David Davies eu cyhuddo o ddweud celwydd.
Er bod rhai wedi beirniadu'r broses o gynllunio'r digwyddiad, mae eraill wedi dweud bydd yr ardal yn elwa o'r digwyddiad, yn enwedig Caerdydd, lle fydd y ras yn dechrau ac yn gorffen.
Dywedodd Mari Williams, o grŵp beicio Caerdydd: "Mae'n wych gweld seiclo yn cael gymaint o sylw yng Nghaerdydd. Rydym am i Gaerdydd fod y ddinas seiclo orau yn y DU.



