Gwrthdrawiad difrifol yn Llanuwchllyn ger Y Bala
- Cyhoeddwyd
Bu ffordd yr A494 ger Llanuwchllyn yng Ngwynedd ar gau am gyfnod ddydd Sul yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.
Fe dderbyniodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiadau am 10:42 fod gwrthdrawiad wedi bod rhwng car a beic modur rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau.
Fe gafodd y beiciwr ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Nid oes unrhyw adroddiadau o anafiadau pellach.
Mae'r ffordd yn awr ar agor ac mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r digwyddiad, yn arbennig ar yrrwr bws a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw ar 101.