Damwain Trimsaran: Dau lanc 17 oed yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Roedd y llanciau'n teithio yn yr un car pan ddigwyddodd y ddamwain ar Heol y Mynydd
Mae dau lanc 17 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn damwain ffordd yn Sir Gaerfyrddin nos Sul.
Roedd y ddau'n teithio yn yr un car pan ddigwyddodd y ddamwain ar Heol y Mynydd ger Trimsaran am 23:18.
Mae un yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a'r llall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau fore Llun wrth i'r heddlu ymchwilio i achos y ddamwain. Mae'r heddlu wedi mynd ag ail gar oedd ger safle'r ddamwain.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw dystion ffonio 101.