Robson-Kanu'n canu clodydd y rheolwr Chris Coleman
- Cyhoeddwyd

Mae Hal Robson-Kanu wedi sgorio ddwywaith mewn 26 gêm i Gymru
Dywedodd blaenwr Cymru, Hal Robson-Kanu, bod buddugoliaeth allweddol y tîm dros Wlad Belg nos Wener yn ffrwyth misoedd o lafur caled a gallu tactegol y rheolwr Chris Coleman.
Yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 aeth Cymru driphwynt yn glir ar frig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016.
Gyda phedair gêm yn weddill mae Cymru o fewn cyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadleuthau am y tro cyntaf ers 1958.
"Mae'r rheolwr wedi bod yn wych, ac mae'n bleser chwarae iddo fe," meddai Robson-Kanu.
"Mae'n gwybod yr hyn sydd angen ar y bechgyn, angen ar y tîm, mae'n cael ei dactegau'n iawn ac yn ysbrydoli'r bechgyn ar gyfer pob gêm."
Bedair blynedd yn ôl roedd Cymru yn rhif 116 ar restr detholion y byd gan FIFA, ac ymhlith y detholion isaf ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Ond nawr fe fydd Cymru'n debyg o fod yn y deg uchaf yn Ewrop yn y rhestr nesaf am y tro cyntaf, ac felly ymhlith y prif ddetholion pan ddaw'r enwau o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 ym mis Gorffennaf.
Wrth gwrs dyw'r gwaith o gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc yr haf nesa' heb ei gwblhau, ond mae Hal Robson-Kanu yn hyderus. Dywedodd:
"Fe aethon ni i Israel gyda phobl yn dweud y byddai'n gêm anferthol i ni, ac ennill 3-0; fe wnaethon ni guro Cyprus 2-1 felly ry'n ni wedi cyflawni o'r blaen.
"Ry'n ni wedi dangos ein bod yn gallu cystadlu ar y lefel yna, ac ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol.
"Roedd nos Wener yn noson anhygoel, ond gobeithio ei bod yn un o lawer i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2015
