Samariaid yn cyhoeddi maniffesto cyn etholiadau 2016
- Cyhoeddwyd

Mae'r graddfa hunanladdiad ymhlith dynion ar ei ucha ers 1981
Fe fydd elusen y Samariaid yn amlinellu gofynion eu maniffesto i'r cynulliad ddydd Gwener - Pedwar Cam i Achub Bywydau - a hynny flwyddyn cyn etholiadau'r cynulliad ym Mai 2016.
Dywed yr elusen fod graddfa hunanladdiad ymhlith dynion ar ei uchaf ers 1981, gyda chynnydd o 23% rhwng 2012 a 2013.
Mae'r elusen am weld pris isafswm yn cael ei osod am bob uned o alcohol.
Hefyd maen nhw am i'r Cynulliad ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod pobl rhwng 16 ac 18 yn cael cefnogaeth o fewn y gyfundrefn addysg.
Fe fydd yr elusen hefyd yn galw ar y cynulliad i gyd-lynu ymgyrchoedd iechyd meddwl sydd wedi eu hanelu yn bennaf at ddynion.
Dywedodd Sarah Stone, cyfarwyddwr gweithredol y Samariaid yng Nghymru: "Tra bod achosion hunanladdiad yn gymleth, rydym yn gwybod fod yna ffactorau sy'n cynyddu'r risg ar gyfer grwpiau penodol ac unigolion.
"Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel amddifadedd, camddefnydd alcohol a bod yn ddyn," meddai Ms Stone.
"Mae lleihau niferoedd hunanladdiad yn golygu bod angen i nifer o asiantaethau gydweithio gyda'i gilydd ar lefel cenedlaethol a lleol.
"Bydd hyn yn sicrhau'r cyfle gorau i bobl drio newid pethau pan maen nhw'n mynd drwy fyfnod anodd."
Mae'r ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau yn dangos bod yna 393 achos hunanladdiad o bobl 15 oed neu hŷn yng Nghymru yn 2013.
Mae hynny'n gynnydd o 59 o'i gymharu â'r nifer yn 2012.
Dywed yr elusen fod y canran hunanladdiad yng Nghymru yn sylweddol uwch na'r un yn Lloegr a hynny ers 2010.
Mae'r ffigyrau yn dangos mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth y rhai rhwng 20-34 oed.
"Rydym angen system sy'n hyrwyddo iechyd meddwl, cefnogaeth amserol, sicrhau ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rydym hefyd angen lleihau anghyfartaledd," meddai Ms Stone.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd29 Hydref 2014
.jpg)
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2013
