£34m i wella gofal yn y gymuned
- Cyhoeddwyd

Bydd rhan o'r arian ar gyfer recriwtio mwy o feddygon teulu
Fe fydd £34 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar recriwtio a hyfforddi nyrsys, therapyddion a fferyllwyr i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu mewn ymdrech i rwystro pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen.
Fe fydd y cynllun hefyd yn gweld rhai gwasanaethau yn symud o ysbytai, fel bod pobl yn gallu cael eu trin yn y gymuned.
Nod arall y cynllun yw ceisio recriwtio mwy o feddygon teulu yn y gogledd, lle mae yna brinder doctoriaid o'r fath mewn sawl ardal.
Dywedodd y Gweinidog iechyd Mark Drakeford y byddai'r arian ychwanegol yn ysgafnhau'r pwysau ar feddygon teulu.
Fe fydd y rhan fwyaf o'r arian - £23 miliwn - yn cael ei roi i'r byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe fydd gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn 19 o brosiectau newydd gan gynnwys:
Uned symudol yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi ei staffio gan nyrs a meddyg teulu, a fydd yn ymateb i sefyllfaoedd brys
Dwy ganolfan newydd i wneud diagnosis a thrin problemau llygaid yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Fe fydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol ar gyfer ymgeiswyr lloches
Bydd Bwrdd Iechyd Powys yn sefydlu system 'triage' newydd a threfn newydd wrth ymateb i alwadau
Prosiect Bwrdd Iechyd Cwm Taf lle mae fferyllwyr yn ceisio gwella rheolaeth cleifion o'u meddyginiaethau
Prosiectau Aneurin Bevan a Cwm Taf i gynorthwyo pobl i leihau'r risg o afiechydon y galon a chlefyd y siwgr