Damwain angheuol ar draeth
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o arwyddion yn rhybuddio am y 'perygl o gerrig yn cwympo' ar y traeth
Mae dynes 23 oed, wedi marw ar ôl digwyddiad ar draeth Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, bnawn Iau.
Cafodd y ddynes ei lladd ar ôl i greigiau ddisgyn o glogwyn yn yr ardal.
Dyw'r union amgylchiadau ddim yn glir.
Cafodd y gwasanaeth Ambiwlans eu galw am 16.55.
Cafodd criw yr ambiwlans awyr hefyd eu galw.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.
Traeth cerrig
Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans gadarnhau bod y ddynes wedi marw.
Dywedodd gweithiwr yn y caffi lleol bod "ffrind oedd gyda'r ddynes ar y pryd wedi derbyn triniaeth am sioc.
"Dydi hi ddim yn anarferol clywed am gerrig yn disgyn yno.
"Traeth cerrig yw hwn ac mae yna glogwyni mawr y ddwy ochr iddo. meddai."
Mae hi'n ardal sy'n boblogaidd ymysg casglwyr ffosiliau - a'r rheswm pennaf ydi bod y rheiny'n dod i'r amlwg oherwydd bod cerrig yn disgyn oddi ar y clogwyni yno'n gyson.
Mae arwyddion ar hyd y traeth yn rhybuddio am y perygl o greigiau yn gostwng.
Adroddiad Aled Huw o Lanilltud Fawr
Dywedodd Elenid Carlig, perchennog tafarn y White Hart yn y pentref: "Mae'r arfordir yma yn hynod boblogaidd gyda cherddwyr a cherddwyr cŵn ... mae hyn mor drist.
"Mae'n anodd i bawb. Fe glywsom ni sŵn y seirenau a'r hofrenyddion drwy'r prynhawn ddydd Iau. Roedd pawb yn gwybod fod rhywbeth wedi digwydd ar y traeth, 'da chi jyst yn gobeithio nad yw'n rhywun 'dan ni'n ei adnabod a ninnau yn byw mewn cymuned mor fach."
Ychwanegodd Ms Carlig: "Mae'r ardal yn adnabyddus am greigiau yn disgyn, os ydych wedi'ch geni a'ch magu yma, mi fysa' chi yn ymwybodol o'r môr, y clogwyni a'u peryglon."

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth am y digwyddiad gysyllltu â nhw ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555111.


