Damwain farwol ar draeth
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau bod dynes wedi marw ar ôl digwyddiad ar draeth Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, bnawn Iau.
Credir bod y ddynes wedi ei llad ar ôl i greigiau gwympo o glogwyn yn yr ardal.
Yn ôl Heddlu De Cymru roedd y ddynes yn ei 20au.
Adroddiad Aled Huw.