Man geni, man draw
- Cyhoeddwyd
Mae rhain i gyd yn wynebau cyfarwydd, ond ai yma yng Nghymru y cawson nhw eu geni ta tu hwnt i Glawdd Offa?

Bu'n cynrychioli etholaeth Caernarfon am flynyddoedd, ond ble cafodd yr Arglwydd Wigley ei eni?

Ym mha wlad deithiodd Twm Morys ar drên bach y sgwarnogod gyntaf?
Ai ar dir Cymru droediodd y Prifardd Twm Morys gyntaf?

Ai Cymru yw gwlad enedigol Alex Jones?
Mae Alex yn gyrru'n rheolaidd dros bont Hafren o Gaerdydd i Lundain i weithio ar 'The One Show'. Ond ar ba ochr i'r bont y cafodd hi ei geni?

Capten ei wlad ond ai yma y cafodd Ashley Wlliams ei eni?
Roedd e ymhlith arwyr Cymru yn erbyn Gwlad Belg, ond ym mha wlad y gwelodd Ashley Williams y bêl am y tro cyntaf?

Ydych chi wedi clywed y newyddion am fan geni Huw Edwards?
Beth am y newyddiadurwr Huw Edwards? O ble daeth y newyddion am ei enedigaeth?

Oes Cymro mwy Cymreig na Dai Jones?
Peidiwch bod yn hurt! Does bosib na chafodd Dai Jones ei eni yng nghefn gwlad Cymru!

Pa mor bell i'r Gogledd gafodd George North ei eni?
Cafodd George North ei fagu dros bont Menai ar Ynys Môn. Ond ai'r ochr hon i bont Hafren y cafodd e ei eni? Cliciwch yma i weld., dolen allanol

Ydi Gwreiddiau Dwfn Gruff Rhys yma yng Nghymru
Ac yn olaf, ai yng Nghymru y canodd Gruff Rhys o'r Super Furry Animals ei nodyn cyntaf? Cliciwch yma i weld., dolen allanol