Cam ymlaen i ganolfan iechyd £5m yn y Fflint
- Cyhoeddwyd

Darluniad posib o ganolfan iechyd newydd y Fflint
Mae canolfan iechyd newydd werth £5m yn Sir y Fflint wedi cael caniatâd cynllunio.
Bydd meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd a chlinigau cymunedol ymysg y gwasanaethau fydd yn cael eu tynnu at ei gilydd yng Nghanolfan Iechyd y Fflint.
Bydd y cynllun nawr yn symud ymlaen i'r cyfnod olaf o ddylunio er mwyn sicrhau cadarnhad Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i gontractwyr gael eu penodi dros yr haf, ac y bydd y gwaith yn dechrau yn yr hydref.
Daw'r ganolfan yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau ysbyty gymunedol y dref.
Dywedodd arweinydd clinigol y cynllun, Dr Elizabeth Shaheir, bod hwn yn "ddatblygiad enfawr" i'r ardal.