Cannoedd yn nodi diwrnod y lluoedd arfog
- Cyhoeddwyd

Hofrennydd y fyddin wedi glanio ar drac rhedeg Parc Eirias
Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull ym Mae Colwyn i nodi diwrnod cenedlaethol blynyddol y lluoedd arfog.
Ymhlith y digwyddiadau yno bu awyrennau Spitfire a Sea King yn hedfan dros yr ardal, yn ogystal ag ymarferiadau milwrol eraill.
Roedd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ymysg y dorf ym Mharc Eirias ddydd Sadwrn wrth i'r achlysur gael ei gynnal am y seithfed tro.
Dywedodd: "Mae hi bob amser yn fraint cael mynychu Diwrnod y Lluoedd arfog ac mae 2015 yn flwyddyn o bwys,
"Nid yn unig ydan ni'n nodi canmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig ond hefyd dau ganmlwyddiant Brwydr Waterloo, ble bu'r Cafalri Cymreig yn chwarae rhan rôl nodedig."
Yn ôl y trefnwyr, mae diwrnodau tebyg yn bwysig i gofio cyfraniad y lluoedd dros y blynyddoedd, a'r rhai sy'n dal i wneud hynny, milwyr wrth gefn a chadetiaid.
Mi diwrnod lluoedd arfog de Cymru yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar 27 Mehefin.

