Rygbi dan20 y Byd: Siom i Gymru yn erbyn Awstralia
- Cyhoeddwyd

Josh Adams yn sgorio cais i Gymru yn erbyn Awstralia
Daeth ymgyrch Cymru i ben ym Mhencampwriaeth Rygbi dan20 y Byd drwy golli i 23-28 i Awstralia.
Bu'n rhaid i'r Cymry ifanc fodlini ar orffen yn y chweched safle felly, gydag Awstralia yn cipio'r pumed safle.
Sgoriodd Josh Adams, Elis Wyn-Benham a Lloyd Lewis geisiau dros Gymru, gyda Dan Jones yn cicio gweddill y pwyntiau.
Ond Awstralia oedd yn rheoli, gan lwyddo i amddiffyn eu mantais ers croesi am y cais cyntaf wedi pum munud. Ar un cyfnod, roedd mantais y Wallabies ifanc yn 17 pwynt cyn i Gymru frwydro'n ôl gyda dau gais yn y 12 munud olaf.
Yn y gemau blaenorol, llwyddodd Cymru i guro Iwerddon (22-12) a Japan (66-3), ond colli i Loegr (16-30) a Ffrainc (10-19).
Mi fydd Lloegr yn wynebu Seland Newydd yn y rownd derfynol yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Adam Korczyk cias agoriaol Awstralia wedi pum munud yn unig