Dyfodol Pantycleyn
Fe fydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cwrdd dydd Llun i drafod y cyfaddawd sydd wedi ei lunio ar ddyfodol Neuadd Pantycelyn.
Mae myfyrwyr wedi meddiannu'r neuadd Gymraeg ers dydd Sul diwethaf, ar ôl i'r Brifysgol ddweud y byddai'r adeilad yn gorfod cau ym mis Medi.
Dywedodd AC Ceredigion Elin Jones wrth y Post Cyntaf fod rhai o aelodau'r cyngor wedi son am eu pryder ynglŷn â'r sylw negyddol sydd wedi deillio o'r ffrae am ddyfodol Pantycelyn.
Aled Scurfield fu yn ei holi am y datblygiadau diweddaraf.