Tîm criced Lloegr i ddysgu ('chydig o) Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Beth yw 'howzat' yn Gymraeg?
Bydd tîm criced Lloegr ymhlith y clybiau chwaraeon fydd yn cynnal gweithdai ac yn dysgu Cymraeg yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd eleni.
Fel rhan o baratoadau'r tîm ar gyfer gêm brawf Investec Ashes yn Stadiwm Swalec ar 8 Gorffennaf, bydd rhai o chwaraewyr y tîm yn dysgu ambell frawddeg yn ystod yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal ar 4 a 5 Gorffennaf.
Dywedodd capten tîm criced Lloegr, Alistair Cook: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â gŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Fel rhan o'n paratoadau ar gyfer y gêm brawf, mae'r criw yn edrych ymlaen at gwrdd â'n cefnogwyr a dysgu ychydig o Gymraeg!"
Fel rhan o arlwy chwaraeon Tafwyl bydd cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei harddangos yng Nghastell Caerdydd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl wrth iddi deithio o amgylch Prydain.

Mae Tafwyl yn cael ei gynnal ar dir Castell Caerdydd
Chwaraeon
Yn ymuno â thîm criced Lloegr yn cynnal gweithdai chwaraeon bydd Cymdeithas Rygbi Cymru, Golff Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Clwb Criced Morgannwg, a bydd canolfan ddringo Boulders yn cynnal wal ddringo. Chwaraeon yr Urdd fydd yn gyfrifol am ardal chwaraeon Tafwyl eto eleni.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy'n trefnu Tafwyl: "Mae chwaraeon yn rhan bwysig iawn o fywyd pobl Caerdydd - wrth wylio a chwarae. Mae'n bwysig iawn i ni felly fod yr ŵyl yn cynnig amrywiaeth o brofiadau a chyfleodd i blant ac oedolion gael mwynhau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ry'n ni hefyd wrth ein bodd bod tîm criced Lloegr yn dod i ymweld â ni i ddod i ddysgu mwy am y Gymraeg yng Nghaerdydd ac i gynnig cefnogaeth i'r ŵyl hon cyn eu gem brawf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2015
