Cwmni celfi: Creu 220 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cytundeb am bum mlynedd i gyflenwi Ikea
Mae cwmni celfi wedi creu 220 o swyddi ar ôl cael cytundeb i gyflenwi Ikea am bum mlynedd.
Westbridge Furniture Designs sy' wedi agor trydedd ffatri ar Lannau Dyfrdwy ac mae £488,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru'n golygu 153 o swyddi erbyn diwedd y flwyddyn.
Ond dywedodd penaethiaid fod cyfanswm y swyddi'n uwch oherwydd y galw.
Erbyn hyn, mae 960 yn gweithio mewn ffatrïoedd ar Lannau Dyfrdwy ac yn Nhreffynnon.
Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart fod y cwmni'n "enghraifft wych" gan iddo gael ei sefydlu yn 2004.