Dyn yn 'gwenu' adeg ymosodiad yn siop Tesco, Yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd

Zack Davies mewn ymddangosiad llys cynharach
Mae achos wedi dechrau yn erbyn dyn o'r Wyddgrug sydd wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio dyn mewn ymosodiad gyda machete a morthwyl mewn archfarchnad yn y dre'.
Mae Zack Davies yn gwadu ceisio lladd Dr Sarandev Bhambra, deintydd dan hyfforddiant, yn siop Tesco ym mis Ionawr, ond mae'n cyfadde' achosi newid bwriadol.
Honnodd yr erlyniad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Mr Davies, 26, wedi dilyn Dr Bhambra i'r archfarchnad cyn ymosod arno yn "fwystfilaidd a heb gymhelliad" fel "modd o ddial am lofruddiaeth y milwr Lee Rigby".
Roedd Dr Bhambra ar egwyl cinio pan ddigwyddodd yr ymosodiad tua 13:40 ar 14 Ionawr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn archfarchnad Tesco yn Yr Wyddgrug yn Ionawr 2015
'Gwenu a gweiddi'
Yn ôl Sion ap Mihangel ar ran yr erlyniad, roedd Mr Davies yn "gwenu a gweiddi ... roedd ganddo forthwyl mewn un llaw a machete yn y llall".
Dywedodd yr erlyniad fod Dr Bhambra yn cerdded yn y siop pan deimlodd "ergyd nerthol" i gefn ei ben a chlywodd rywun yn gweiddi'r tu ôl iddo.
Wrth iddo godi'i fraich i amddiffyn ei hun, bu bron i'w law gael ei thorri ffwrdd.
Cafodd Dr Bhambra "anafiadau difrifol a newidiodd ei fywyd". Ar un adeg fe lwyddodd i ddianc ond fe ddisgynnodd, cyn i Mr Davies ymosod arno eto.
Ymyrryd
Clywodd y llys fod cyn filwr, Peter Michael Fuller, oedd yn siopa yn yr archfarchnad ar y pryd, wedi achub bywyd Dr Bhambra drwy atal yr ymosodiad.
Yn ôl Mr Fuller, roedd yn un o'r "achosion gwaetha' o drais iddo eu gweld erioed".
Dywedodd yr erlyniad: "Roedd aelod o'r cyhoedd yn ddigon dewr i ymyrryd a pherswadiodd y diffynnydd i roi'r morthwyl a'r machete i lawr."
Ychwanegodd: "Dywed yr erlyniad fod hwn yn ymgais clir gan y diffynnydd i ladd Dr Bhambra."
Mae'r erlyniad wedi dweud bod Mr Davies wedi mynd allan gyda'r bwriad o ymosod ar gariad ei fam ond methodd â'i ffeindio a thargedodd Dr Bhambra oherwydd ei hil a'i "olwg Asiaidd".
"Cymhelliad hiliol oedd i'r ymosodiad hwn ... wrth iddo ddigwydd roedd yn gweiddi geiriau fel 'grym y gwynion', 'dyma'r dial', ac 'mae hyn ar ran Lee Rigby'."
Roedd Mr Davies wedi dweud wrth yr heddlu mai "moment o wallgofrwydd" oedd y cyfan ac nad oedd wedi bwriadu lladd Dr Bhambra o'r cychwyn, ond ei fod yn clywed lleisiau yn dweud wrtho am ei ddilyn ac ymosod arno.

Cafodd y milwr Lee Rigby ei lofruddio'r tu allan i farics yn Woolwich ym mis Mai 2013
'Ergyd nerthol'
Clywodd y llys fod eitemau'n ymwneud â goruchafiaeth pobl wyn a Natsïaeth wedi'u darganfod yng nghartre'r diffynnydd.
Dywedodd Mr Davies wrth yr heddlu ei fod yn aelod o sefydliad asgell dde eithafol, ond ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun yn yr archfarchnad.
Fe glywodd y llys hefyd fod Mr Davies wedi cael ei ddiarddel o'r ysgol pan oedd tua 11 neu 12 oed am fynd â chyllell yno i ymosod ar gyd ddisgybl.
Mae Mr Davies yn gwadu llofruddiaeth ond fe blediodd yn euog i gyhuddiad arall o ymosod yn fwriadol.
Clywodd y rheithgor ei fod yn derbyn ei fod yn gyfrifol am anafiadau Dr Bhambra ond nad oedd yn bwriadu ei ladd.
Mae'r achos yn parhau.