Cymeradwyo canolfan iechyd £20m yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Ysbyty Aberteifi roi'r gorau i ddarparu gwelyau ym mis Mawrth y llynedd
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi cymeradwyo cynllun gwerth £20 miliwn ar gyfer canolfan iechyd yn Aberteifi, Ceredigion.
Fe fydd yn darparu gwasanaethau i gymryd lle rhai Ysbyty Aberteifi a'r ganolfan iechyd bresennol.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda roi'r gorau i ddarparu gwelyau yn Ysbyty Aberteifi ym mis Mawrth y llynedd.
Fe wnaeth ymgyrchwyr lwyddo i gael adolygiad barnwrol ym mis Rhagfyr ond penderfynodd hwnnw o blaid y Bwrdd Iechyd.
Ymhlith y gwasanaethau fydd yn cael eu darparu mae:
Meddygon teulu, gan gynnwys gwasanaeth y tu allan i oriau arferol;
Clinigau sy'n cael eu harwain gan nyrsys;
Uned man anafiadau;
Gwasanaethau radioleg a diagnostig;
Gofal ar gyfer dioddefwyr dementia a'u gofalwyr.
'Cyffrous'
Fe fydd y ganolfan yn gwasanaethu de Ceredigion, gogledd Penfro a Dyffryn Teifi.
Dywedodd Mr Drakeford: "Fe fydd y ganolfan newydd yn caniatáu i'r bwrdd gynnig gwasanaethau iechyd modern a gwasanaethau cymdeithasol i bobl Aberteifi a'r ardal gyfagos.
"Mae'r prosiect yn ffordd gyffrous i fynd i'r afael â phroblemau sy'n wynebu ardaloedd gweledig ledled Cymru."
Dywedodd Eirwyn Harries, cadeirydd Cynghrair Ffrindiau Ysbyty Aberteifi, eu bod yn croesawu'r arian "a nawr rydym yn gobeithio na fydd yna fwy o oedi".
Roedd yn gobeithio y byddai'r ganolfan yn cael ei hagor yn 2019.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Fe fyddwn yn cyflwyno Achos Busnes Cyflawn i'r llywodraeth yn gynar yn 2016 ... ac fe allai'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2016."