Parc gwledig: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 16:45
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn farw mewn parc gwledig yng Nghoryton, Caerdydd.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i "ddigwyddiad difrifol" ar ôl cael eu galw i Barc Gwledig Fferm y Fforest ychydig wedi 16:45.
Cyhoeddwyd bod dyn 41 oed yn farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 58 oed yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd a dylai unrhywun gyda gwybodaeth ffonio 101.