Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

1531. Rhif pwysig i'r ymgyrchwyr i gadw Pantycelyn ar agor
1531. Poster gyda'r rhif yna arno ydy un o'r lluniau amlwg yn Golwg yr wythnos yma. Dyna faint o ddyddiau oedd yna, ddydd Gwener ddiwethaf, nes ail agor Pantycelyn.
Do fe 'achubwyd Pantycelyn' am ryw hyd beth bynnag.
Ond mae golygyddion y cylchgrawn yn gweld arwyddocâd pellach i'r holl ymgyrch a sut mae'r myfyrwyr a'u cefnogwyr, trwy gyfrwng y cyfryngau newydd yn amlach na pheidio, wedi taflu drysau'r tyrrau ifori led y pen ar agor i ni weld sut mae eu penderfyniadau nhw'n cael eu gwneud.
Ac yn edrych ymlaen at weld yr un peth yn digwydd i sefydliadau eraill.
Efallai y byddai gan Gwilym Owen beth edmygedd at fyfyrwyr Pantycelyn am gorddi pethau i'r fath raddau - ond fydda fo byth yn cyfaddef hynny.
Ond mae'n ymddangos nad oes ganddo fo fawr i'w ddweud wrth ei gyd-newyddiadurwyr erbyn hyn.
Dau sy'n cael eu hachub rhag y lach yr wythnos hon; Vaughan Roderick a Guto Harri.
Mae'n diolch i Guto am ei gyfraniad i Golwg yr wythnos cynt, dolen allanol am gorddi chydig ar ddŵr llonydd gwleidyddiaeth Cymru.
Gwêl gymaint o fai ar ein 'hacs Cymreig', chwedl yntau, a'r gwleidyddion am y ffaith nad ydy Carwyn Jones a'i lywodraeth yn gorfod esbonio ac amddiffyn eu polisïau a bod byddin y Torïaid ac UKIP brasgamu trwy Gymru.
'Prennaidd ac anysbrydoledig' ydy ei eiriau am ei gydweithwyr.

Mae'r Farwnes Morgan yn troi ei llygaid at Fae Caerdydd
Er gwaethaf sêl bendith y Pab Gwilym ymddiheuro am droi at hen bregeth mae Vaughan Roderick ar Cymru Fyw, sef y frwydr rhwng y carfanau cenedlaethol ac unoliaethol o fewn y Blaid Lafur.
Mae'n gweld arwyddocâd i'r ffaith bod yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig yn rhuthro i Gaerdydd i gael tynnu eu lluniau efo Carwyn, bod Huw Irranca-Davies yn meddwl bod cydlynu ymgyrch Cynulliad 2016 yn bwysicach na bod ar feinciau blaen San Steffan a phenderfyniad Eluned Morgan i droi ei llygaid i gyfeiriad y Bae.
Mae o'n meddwl bod y platiau tectonig yn symud eto.
"Does neb yn disgwyl i Lafur Cymru wynebu'r un fath o ddinistr a'r blaid Albanaidd," medda fo.
"Ond cofiwch, flwyddyn yn ôl doedd neb yn yr Alban yn credu bod chwalfa o'r fath yn bosib yno. Gall Carwyn, a Chymru, enwi eu pris," meddai Vaughan.
Un sydd yn ei dro wedi dymuno bod yn rhan o'r broses hon o fewn y Blaid Lafur ac wedi sylwebu arni ydy John Stevenson.
Un sy'n amlwg iawn yn yr Herald Cymraeg ac yn Golwg yr wythnos hon, a'i hunangofiant, Ar fy ngwaethaf, bellach yn y siopau.
Mae'n cyfaddef, nad ydy'r uchelgais wleidyddol wedi ei difa'n llwyr ynddo fo - ond bellach ei fod o'n rhy hen a bod ganddo fo ormod o baggage i wneud dim am y peth.
Y math o gymeriad diddorol y byddai Gwilym Owen yn lecio'i weld yn camu ar y llwyfan mae'n debyg.

Gobeithio y bydd Dylan, Gwilym a Guto yn mynd ati i gefnogi'r Gymdeithas Enwau Llefydd
Ond i orffen dwi'n mynd i droi at Dylan Iorwerth ac at ymgyrch dawelach nag un Pantycelyn a hyd yn oed is ei phroffil nac etholiadau San Steffan a'r Cynulliad ond un llawn cyn bwysiced.
Yr wythnos nesa' fe fydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Cynulliad ar Seisnigo enwau Cymru. Nid yn unig unigolion a'u tai preifat, ond ar lefel swyddogol yr Arolwg Ordnans.
Cwm Cneifion wedi ei nodi ar fap fel Namelss Cwm, a rhywle yng nghyffiniau esgair y Llymllwyd yng nghyffiniau Cwm Cywion mae clwstwr o greigiau o'r enw the Mushroom Garden.
'Pwy roddodd yr hawl iddyn nhw wneud hyn?' meddai Dylan.
Clywch, clywch medda finnau.
A gobeithio y bydd Dylan, Gwilym, Guto, myfyrwyr Pantycelyn a phob un o'r darllenwyr yn mynd ati i gynhyrfu'r dyfroedd a chefnogi'r Gymdeithas Enwau Llefydd yn eu hymgyrch.
Cyfarchion i chi i gyd o Aberwritwatch!