Ymchwiliad Grangetown: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn chwilio am Arnel Martinez Raymondo
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio Arnel Martinez Raymundo - y dyn oeddynt am holi mewn cysylltiad ag ymdrech i lofruddio dynes 43 oed o Gaerdydd.
Cafodd dyn 47 oed ei arestio yn ardal Croydon Llundain yn gynnar bore Iau.
Maen nhw'n ei holi ynglŷn â digwyddiad yn ardal Grangetown ar ddydd Gwener 12 Mehefin.
Cafodd dynes 43 oed ei chludo i'r Ysbyty Athrofaol ar ôl cael ei thrywanu.
Aed a'r dyn yn ôl i orsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd, ac mae'r parhau i gael ei holi.
Bu rhan o Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau am gyfnod tra oedd y plismyn a hofrennydd yn chwilio'r ardal.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555111
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10:30 ac mae'r ddynes yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd rhan o Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio