"Ga'i lun plîs?"
- Cyhoeddwyd

Mae rhywun wedi gwrthod llun 'da Cat!
Mae hi'n wyneb a llais cyfarwydd ar wasanaethau teledu a radio BBC Cymru ac mae hi wedi creu ychydig o gynnwrf hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwleidyddion, sêr chwaraeon a hyd yn oed y teulu brenhinol... does neb yn ddiogel pan mae Catrin a'i bys ar fotwm camera ei ffôn symudol!
Yn ystod y pythefnos nesa' bydd hi'n ceisio ychwanegu mwy o hun-luniau, neu selfies, i'w chasgliad pan fydd hi'n gohebu unwaith eto o bencampwriaeth tennis Wimbledon.
Fe ofynodd Cymru Fyw yn garedig i Catrin roi ei ffôn o'r neilltu am 'chydig funudau i sôn mwy am ei hobsesiwn efo'r selffi:
"O bydded i'r hun-lun barhau!"
Fy enw i yw Catrin ac ma' gen i broblem. Dwi'n hun luniwr. Dyna 'ny, 'dwi 'di cyfadde', 'dwi'n hoff o hun lun neu ddau. Ie sucker wyf am selffi...
'Dwi wastad 'di bod yn un am lun gyda'r enwogion - pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth roedd gen i "enwog-wal" neu wall of stalk a oedd yn destun dirmyg gan gyfoedion.
Roedd safon y selebs yn amrywio cofiwch. O rai o fawrion y genedl o Gwmderi i rai o wehilion 'Big Brother' a 'Fame Academy'. Ond rhoi fy ffydd a fy nghamera i ffrind fyddwn i bryd hynny... Erbyn hyn does dim rhaid.
Gyda chlic bach o'r ffôn, mae modd sicrhau llun cam, di-ffocws, di-drefn 'da sawl gên... ond dio'm ots am hynny... ma'r eiliad gyda'r enwog-un ar gof a chadw a fi yn unig sy' ar fai am fethiant neu lwyddiant yr hen lun.
Dros y flwyddyn ddwetha' tra ar grwydr 'da amryw gampau 'dwi wedi cofleidio'r arfer ac wrth i mi baratoi am bach o dennis ac, o bosib, Pimms yn Wimbledon ddydd Llun, dwi hefyd am ychwanegu at fy oriel hun-luniau.
Murray neu McEnroe sydd ar fy meddwl.... Ond cyn i mi ddechrau ar yr her hynny dyma hel atgofion am y deuddeg mis d'wetha' ar hun-luniau fydd yn aros yn hir yn y cof!!
O bydded i'r hun-lun barhau!
Dyma i chi rai o'r wynebau cyfarwydd rwy' wedi eu perswadio i dynnu llun 'da fi:
Tim Henman
Y cynta' o'r hun-luniau! Dwi'n meddwl i fi 'neud rhyw esgus bod y cynhyrchydd yn mynnu bo fi'n cael llun gydag e... celwydd noeth! Fi o'dd yn awyddus i gael llun a dyna 'ny!

Roedd hi'n rali galed i berswadio Tim Henman i gael tynnu ei lun!
John Lloyd
Wel am ddyn hoffus - wastad yn hael iawn ei gyfweliad ac yn amlwg yn un am hun-lun.

John Lloyd yn cael ychydig o amser i hamddena yng nghwmni Cat
Christian Malcom
Roedd y gwibiwr yn rhan o dîm sylwebu BBC Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd. Er fy mod i awr a hanner yn hwyr yn ei gyrraedd oherwydd campau'r merched gymnasteg rhythmig - roedd e'n hapus i gael llun!

Fe enillodd Cat y ras i gael llun gyda Christian Malcolm
Jamie Donaldson
Ges i'r llun 'ma rhyw ddeuddydd cyn i'r Cymro gael y pwynt hollbwysig fyddai'n sicrhau bod Cwpan Ryder unwaith eto yn nwylo Ewrop.
Roedd mynd yn agos ato wedi hynny yn her am fod pawb yn awyddus i gael gair ag e - ond ges i gwtch bach ganddo ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Roedd hi'n bluen yn het Cat i gael llun gydag arwr y Cwpan Ryder, Jamie Donaldson
Sam Warburton
Er i'r Gleision golli eu gêm yn nigwyddiad Dydd y Farn yn Stadiwm y Mileniwm eleni - fe dreuliodd gapten Cymru rhyw hanner awr yn cael hun-luniau gyda'r dorf.
Roedd ganddo ddigon o amser, chwarae teg, i ohebydd di-nod fel fi hefyd!

Catrin yn arwain Sam tuag at y lens!
Y Tywysog William a Kate
Dyma Bethan Clement, fy nghydweithwraig, yn ymuno yn yr hwyl!
Os edrychwch chi'n graff iawn rhwng y ddwy ohonom ni ma'r ddau.
Yn rhyfedd iawn - doedd swyddogion diogelwch William a Kate ddim yn awyddus ein bod ni'n mynd yn nes atyn nhw!
'Sgwn i pam!?

Un llun, un tywysog a thair tywysoges!
Helle Thorning-Schmidt
Cyn Brifweinidog Denmarc! Dyma hi Brenhines yr Hun-luniau!
Fe a'th hi i ddyfroedd dyfnion adeg gwasanaeth coffa Nelson Mandela yn mynnu llun gyda David Cameron a Barack Obama. Pan dda'th hi i gefnogi ei gŵr Stephen Kinnock, o'dd yn ymgeisydd yng Nghastell-Nedd yn yr etholiad, rhaid o'dd nodi'r digwyddiad a chael llun!

Doedd tad yng nghyfraith Helle Thorning-Schmidt ddim mor awyddus i gael tynnu ei lun!
Ond credwch neu beidio ma' 'na ambell i un sy'n casáu'r arfer a dwi ddim yn gallu dwyn perswâd arnyn nhw am lun! Pan holes i Neil Kinnock adeg yr etholiad a oedd e'n ffan o'r hun-luniau, fel ei ferch yng nghyfraith, fe ddwedodd nad oedd e erioed wedi cael un a nad oedd e am ddechrau nawr.
Ac am hanner awr wedi pedwar y bore - yn ystod 'larwm dân mewn gwesty yn Glasgow- fe es i at un (fe na' i adael i chi ddyfalu pwy!) sydd wedi ei urddo'n farchog. Yn rhyfedd iawn - yn hanner cysgu - doedd e chwaith ddim am ymuno yn yr hwyl... ond chwarae teg roedd e'n ddigon cwrtais yn gwrthod!
Gan obeithio na fydd gormod yn gwneud dros y pythefnos nesa!
Gwyliwch y gofod!

Mae Helle wedi gosod her go fawr i Catrin!