Gorchymyn goruchwylio i ddynes drywanodd ddau o blant
- Cyhoeddwyd

Bydd rhaid i Sadie Jenkins gael profion cyffuriau yn wythnosol yn rhan o'r gorchymyn
Mae menyw drywanoddd ddau o blant yn eu gyddfau wedi derbyn gorchymyn goruchwylio ddwy flynedd o hyd.
Fe ymosododd Sadie Jenkin, 28, o Gasnewydd ar y plant pan oedd hi dan ddylanwad cyffuriau amffetamin.
Fe gafodd ei chanfod yn ddi-euog o ddau achos o geisio llofruddio ar y sail nad oedd hi yn ei iawn bwyll.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, fe dderbyniodd Miss Jenkins y gorchymyn, sy'n ei gorfodi i gael prawf cyffuriau o leiaf unwaith yr wythnos.
Fe glywodd y llys fod Miss Jenkins yn seicotig pan ymosododd hi ar y plant gyda chyllell chwe modfedd ar 7 Mai, 2014.
Wedi iddi anafu'r plant, fe anafodd ei hun, yna dywedodd wrth feddygon: "Y lleisiau ddywedodd wrtha'i am wneud".
Oriau cyn yr ymosodiad, roedd hi wedi dweud ei bod wedi derbyn "neges gudd" gan raglen deledu CSI.
'Dim esgus'
Disgrifiodd y barnwr yr achos fel "trasiedi", gan ychwanegu fod Miss Jenkins yn cymryd amffetamin yn ddyddiol, ac "nad oedd esgus" am ei defnydd o gyffuriau.
Dywedodd: "Fe fyddan nhw [y plant] wedi eu creithio yn gorfforol ac yn emosiynol am byth.
"Oherwydd eich seicosis, doeddech chi ddim yn gwybod eich bod chi'n gwneud unrhyw beth o'i le."
Dywedodd arbenigwyr wrth y llys nad oedd Miss Jenkins wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, a'i bod hi wedi gwella o'i seicosis.
"Dim ond i chi beidio â chymryd cyffuriau, ac aros yn eich iawn bwyll, does 'na ddim llawer o risg y gwnewch chi droseddu eto," meddai'r barnwr.