Carchar i gyflenwyr cyffuriau yn ardal Abertawe
- Cyhoeddwyd

Clywodd y llys i'r heddlu ddod o hyd i gocên gwerth £750,000
Yn Llys y Goron Abertawe, mae grŵp o bobl wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o dros 20 mlynedd yn y carchar am eu rhan mewn cynllwyn i werthu cyffuriau.
Fis Tachwedd y llynedd, fe ddaeth yr heddlu o hyd i gocên gwerth £750,000 a bron i £60,000 mewn arian parod mewn cyrchoedd ar 11 o dai yn y ddinas
Roedd aelodau'r gang wedi defnyddio'r arian i dalu am wahanol bethau gan gynnwys priodas, gwyliau moethus, ceir, gemwaith a thŷ gwerth £300,000.
Cafodd Carl Honey-Jones ddedfryd o naw mlynedd o garchar, Matthew Jones, wyth mlynedd a Brian Harding, pum mlynedd a hanner.
Clywodd y llys fod Honey-Jones o ardal Penlan, Abertawe, wedi defnyddio aelodau o'i deulu a ffrindiau i gynnal busnes cyflenwi cyffuriau, a hynny ar y cyd gyda'i bartner busnes Christian Fielding o ardal Lerpwl.
Fe wnaeth l Honey-Jones, Fielding a Harding bledio'n euog i'r cyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.
Fe wnaeth Jones wadu'r cyhuddiad ond fe'i cafwyd yn euog.
Carchar gohiriedig
Bydd Fielding yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher nesaf.
Cafodd Laura Harding, 31, o ardal Penlan, garchar gohiriedig o 16 mis am geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a chafodd David Owens o ardal Caemawr, Abertawe ddedfryd debyg am yr un cyhuddiad.
Dywedodd y barnwr Paul Thomas QC wrth Honey-Jones: "Roedd y cyfan wedi ei ysgogi gan drachwant ag arian.
"Y chi oedd ar frig y cynllwyn yma o ran beth oedd yn digwydd yn Abertawe.
"Fe wnaeth o ariannu bywyd moethus, gan gynnwys priodas, gwyliau tramor drud a cheir drudfawr."