Bangor: 500 o gartrefi heb bŵer
- Cyhoeddwyd

Mae hyd at 500 o gartrefi a busnesau heb bŵer ym Mangor.
Fe ddywedodd Scottish Power fod peirianwyr ar y Stryd Fawr yn y ddinas yn ceisio ail-gysylltu'r nam cyn gynted â phosib.
Mae'n debyg fod nifer o fusnesau yn yr ardal wedi gorfod cau oherwydd y broblem.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod "nam ar gebl foltedd-uchel wedi effeithio rhwng 400 a 500 o gwsmeriaid yn yr ardal".