Tân fflat Dinbych 'wedi ei gynnau yn fwriadol'
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn credu bod tân mewn fflat yn Sir Ddinbych fore Sul wedi ei gynnau yn fwriadol.
Cafodd criwiau o'r Rhyl a Rhuthun eu gyrru i Stryd Vale yn Ninbych am 05:30.
Cafodd y fflat ei ddinistrio gan y tân, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Cafodd tai yn yr ardal eu gwagu rhag ofn ac mae ymchwiliad wedi dechrau.
