Jazz Richards yn gadael Abertawe am Fulham
- Cyhoeddwyd

Chwaraeodd Richards 14 gêm ar fenthyg i Fulham tymor diwethaf
Mae amddiffynnwr Cymru Jazz Richards wedi gadael Abertawe er mwyn ymuno gyda Fulham.
Y gred yw bod Fulham, sy'n cael eu rheoli gan y Cymro Kit Symons, wedi talu tua £500,000 i'w arwyddo ar gytundeb tair blynedd.
Roedd Richards, sy'n 25 oed, yn awyddus i symud er mwyn cael rhagor o gyfleoedd i chwarae'n rheoliad.
Chwaraeodd 12 gwaith i'r Elyrch y tymor diwethaf, ac fe dreuliodd pedwar mis ar fenthyg gyda Fulham yn y Bencampwriaeth.
Ar ôl perfformio'n wych i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Gwald Belg ym mis Mehefin, roedd Aston Villa a Norwich wedi dangos diddordeb ynddo.
Cafodd Richards ei feithrin gan Academi Abertawe, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r tîm cyntaf yn 2009.
Ond ni lwyddodd i sefydlu ei hun fel y dewis cyntaf, gan adael gyda chyfanswm o 51 ymddangosiad ym mhob cystadleuaeth dros chwe blynedd.
"Pan nes i chwarae i Fulham tymor diwethaf nes i setlo'n syth yng nghwmni'n chwaraewyr a'r staff, a nes i fwynhau'r steil o chwarae roedd Kit Symons yn ei annog," dywedodd Richards, sydd wedi ennill pum cap rhyngwladol.
"Mi wnaeth hynny wneud i mi eisiau dod yn ôl."
Caerdydd fydd gwrthwynebwyr Fulham yng ngêm agoriadol y tymor ar 8 Awst.